PAM BIRCHILL ACCESS CONSULTANCY?

Mae Birchill Access Consultancy Ltd yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau rheoli tir ar gyfer nifer o gwsmeriaid gwahanol. Mae’r gwasanaethau’n canolbwyntio ar waith achos Hawliau Tramwy Cyhoeddus, Tir Comin a Lleiniau Pentrefi, yn ogystal â gwaith ymgynghori arall sy’n ymwneud â Rheoli Tir.

GWYBODAETH GYSWLLT
  • Cyfeiriad: Claire Goodman, Bsc (Hons) MIPROW, 2 Glanfedw, Pontarfynach,
    Aberystwyth, Ceredigion, SY23 4RE
  • Ffôn: 01970 890491
  • Ffôn Symudol: 07966 947752
  • Ebost: [email protected]
  • Arbenigwyr Rheoli Tir

Amdanon Ni

Mae Birchill Access Consultancy Ltd yn gwmni proffesiynol, deinamig sy’n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau rheoli tir ar gyfer nifer o gwsmeriaid gwahanol. Rydym yn arbenigo yn y canlynol:

  • Hawliau Tramwy Cyhoeddus
  • Tir Comin
  • Lleiniau Pentrefi
  • Mynediad Cefn Gwlad

Mae ein gwasanaethau’n canolbwyntio ar waith achos Hawliau Tramwy Cyhoeddus, Tir Comin a Lleiniau Pentrefi yn ogystal â gwaith ymgynghori arall sy’n ymwneud â Rheoli Tir.

​Enillydd - 'Y business gwasanaeth profesiynol gwledig gorau'. Rhanbarth Cymru a NI​Busness gweledig gwobrau, 2018

Gwasanaethau ar gyfer Awdurdodau Lleol a’r Llywodraeth

Rydym yn darparu gwasanaeth proffesiynol o ansawdd uchel ar gyfer Awdurdodau Lleol mewn perthynas â gwaith achos Rheoli Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Thir Comin / Lleiniau Pentrefi.

Mae ein hamrywiaeth eang o wasanaethau arbenigol yn cynnwys:

  • Gorchmynion a Chytundebau Llwybrau Cyhoeddus dan Ddeddf Priffyrdd 1980 a Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, gan gynnwys cyflwyno achosion i’r Arolygiaeth Gynllunio.
  • Gorchmynion Addasu Mapiau Diffiniol dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, gan gynnwys cyflwyno achosion i’r Arolygiaeth Gynllunio.
  • Creu a rheoli llwybrau strategol h.y. gwaith achos Llwybr yr Arfordir.
  • Darparu cyngor a drafftio dogfennau strategol h.y. Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy, Cynlluniau Rheoli
  • Gwaith arolygu Hawliau Tramwy gan gynnwys drafftio amserlen waith ar gyfer contractwyr.
  • Prosiectau mynediad sydd wedi’u teilwra i gwrdd â gofynion cleientiaid.
  • Gwaith achos Tir Comin h.y. dosrannu tir, cysylltu â pherchnogion/porwyr tir.
  • Gwaith achos Lleiniau Pentrefi – prosesu achosion hyd nes cynhelir ymchwiliad cyhoeddus.
  • Darparu hyfforddiant ar amrywiaeth eang o destunau h.y. hyfforddi swyddogion, cynghorwyr a sefydliadau eraill.
Bridge Access

Gwasanaethau ar gyfer Perchnogion Tir

Rydym yn darparu gwasanaeth proffesiynol ac addysgiadol i berchnogion tir ar amrywiaeth eang o faterion Hawliau Tramwy Cyhoeddus, Tir Comin a Lleiniau Pentrefi. Yn sgil ein profiad helaeth o ddelio â’r materion hyn ochr yn ochr ag arferion rheoli tir, gallwn eich helpu gyda’r canlynol:

  • Cyflwyno cais i wyro llwybr er mwyn gallu rheoli/datblygu tir neu i gael preifatrwydd.
  • Ymchwil manwl a chyngor pan fydd unrhyw hawlio neu ddadlau ynghylch llwybrau ar eich tir yn sgil cais am Orchymyn Addasu Map Diffiniol.
  • Cymorth a chyngor i atal honiadau bod yna hawliau tramwy cyhoeddus ar eich tir
  • Cyngor cyffredinol ar hawliau tramwy cyhoeddus.
  • Cymorth i drefnu digwyddiadau sy’n effeithio ar hawliau tramwy cyhoeddus.
  • Cysylltu ar faterion tir comin a lleiniau pentrefi.
Landowners Consultancy

Gwasanaethau ar gyfer Asiantaethau Eraill

Mae gennym brofiad helaeth o ddelio â sefydliadau sy’n ymwneud yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol â materion hawliau tramwy cyhoeddus, tir comin a lleiniau pentrefi ac rydym yn ymgynghori ar ran:

  • Y Llywodraeth Ganolog
  • Asiantaethau Tir
  • Undebau Amaethyddol
  • Cyfreithwyr
  • Datblygwyr
  • Cynllunwyr
  • Chwareli
  • Grwpiau Defnyddwyr

Cysylltwch â ni i drafod unrhyw faterion yr hoffech gael cymorth gyda nhw.

Quarry with Clients

Hyfforddiant

Mae Birchill Access Consultancy Ltd yn darparu hyfforddiant i lu o gynulleidfaoedd amrywiol a gall deilwra’r hyfforddiant ar gyfer unrhyw lefel neu gynulleidfa, gan ddarparu cyflwyniadau addysgiadol a difyr sy’n cwrdd â’ch gofynion chi.

  • Hyfforddiant i swyddogion newydd y llywodraeth ar holl faterion Hawliau Tramwy Cyhoeddus.
  • Hyfforddiant i Fforymau Mynediad Lleol ar faterion mynediad i dir.
  • Hyfforddiant i grwpiau sydd â diddordeb mewn Rheoli Hawliau Tramwy Cyhoeddus h.y. Prifysgolion / Colegau / Cynllunwyr.
  • Hyfforddiant sydd wedi’i deilwra i gwrdd ag anghenion unrhyw grŵp.
  • Sgiliau sylfaenol darllen mapiau a Llywio Awyr Agored.

Rydym wedi darparu hyfforddiant proffesiynol ar gyfer Canolfan Astudiaethau Amgylcheddol Plas Tan y Bwlch, Parc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Sir Fynwy.

Training

Astudiaethau Achos

Gwaith achos Gwyro / Creu Llwybr yr Arfordir.
Gwaith prosiect tra’n gweithio i Gyngor Sir Ceredigion yn ymwneud â rheoli gwyriadau cyfreithiol, gwaith creu a gwaith arall ar hyd rhannau amrywiol o Lwybr Arfordir Cymru yng Ngheredigion. Hefyd gwaith ymchwilio i Gyngor Sir Gwynedd.

Addasu Map Diffiniol – Tan y Bwlch, Aberystwyth
Ymchwil ac archwiliad manwl o ffeiliau/mapiau hanesyddol a gweithredu fel tyst arbenigol yn yr Ymchwiliad Cyhoeddus a arweiniodd at ychwanegu troedffordd gyhoeddus newydd i’r Map a’r Datganiad Diffiniol.

Achos Llain Bentref - Talybont
Prosesu cais ar gyfer Llain Bentref yng Ngheredigion oedd yn golygu deall gweithdrefnau a chyfraith achos Lleiniau Pentref. Roedd hyn yn golygu gweithredu fel tyst allweddol y cyngor mewn Ymchwiliad Cyhoeddus. Llwyddwyd i gofrestru Llain y Pentref.

Case Studies

Tystebau

"Roedd y gwasanaeth a ddarparwyd gan Birchill Access yn brydlon, proffesiynol a chymwys. Roedd trafodaethau uniongyrchol gyda’r Cyngor wedi arwain at impasse anfoddhaol, ond llwyddodd Claire i dorri llwybr trwy’r holl ddryswch cyfreithiol, gan gynnig ateb oedd yn dderbyniol i’r ddwy ochr. Mi fuaswn i’n llwyr gymeradwyo Birchill Access i unrhyw un sydd am wyro Hawl Tramwy."

Perchennog Tir – Canolbarth Cymru

"Diolch o galon am ein helpu i wyro’r llwybr troed cyhoeddus sy’n croesi’n tir yn llwyddiannus. Roedd yn broses hir a chymhleth, ond mi lwyddoch chi i lenwi’r holl waith papur angenrheidiol ar ein rhan, gan wneud y profiad yn un didrafferth i ni. Cawsom gyngor gennych hefyd ar y llwybr newydd arfaethedig, a roddodd y cyfle gorau posib inni o lwyddo. Y gwir fesur o lwyddiant y prosiect yw ein bod nid yn unig wedi llwyddo i symud y llwybr i safle mwy cyfleus, ond ein bod hefyd erbyn hyn yn gallu cynnig llwybr llawer gwell i’n ffrindiau, cymdogion a’r cyhoedd yn gyffredinol ei ddefnyddio. Roeddem yn gwerthfawrogi’ch dull cyfeillgar, proffesiynol yn fawr ac rwy’n barod iawn i lwyr gymeradwyo’ch gwasanaethau."

Perchennog Tir – Swydd Gaer

“Rwyf wedi gweithio gyda Birchill Access Consultancy Ltd ar nifer o ddarnau o gynnwys ar gyfer ein canllaw ymarferol LexisPSL. Bob tro, mae Claire wedi cynhyrchu gwaith o’r safon uchaf, ac wedi cyflwyno’i darnau erbyn, neu cyn y dyddiad cau (rhywbeth a werthfawrogir yn fawr yn y maes hwn). Mi fuaswn i’n awyddus i weithio gyda Claire eto ar y cyfle cyntaf.”

LexisNexis, Llundain

"Darparodd Claire ddiwrnod diddorol ac addysgiadol o hyfforddiant ar orchmynion addasu tystiolaethol, gan ddosbarthu taflenni defnyddiol ar gyfer Aelodau Panel Hawliau Tramwy Sir Fynwy. Mae’r Pwyllgor nawr yn glir ynghylch ei gyfrifoldebau ac yn deall y prosesau dan sylw."

Prif Swyddog Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Sir Fynwy

"Mae gan Claire arbenigedd prin ym maes arbenigol hawliau tramwy, a fu o gymorth mawr i Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Bu’r profiad a’r sgiliau a ddatblygodd Claire tra’n gweithio i awdurdod lleol yng Nghymru’n amhrisiadwy o ran ei gallu i ddeall y brîff, a darparu’r gwasanaethau cyfreithiol angenrheidiol ar gyfer y Parc Cenedlaethol. Mae Awdurdod y Parc yn defnyddio Birchill Access Consultancy ar hyn o bryd i baratoi a chyflenwi’i Orchmynion Llwybrau Cyhoeddus dan A119."

Rheolwr Mynediad, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Rheoli

Mae Birchill Access Consultancy Ltd yn cael ei arwain gan Claire Goodman-Jones, sydd â sgiliau a gwybodaeth arbenigol am Reoli Hawliau Tramwy Cyhoeddus a gwaith achos Tir Comin a Lleiniau Pentrefi, yn ogystal â llu o sgiliau eraill ym maes rheoli tir. Dros y 15 mlynedd diwethaf mae wedi gweithio i Lywodraeth Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru gynt, Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Ceredigion mewn swyddi arbenigol yn ogystal â rolau rheoli tim/prosiectau.

Mae Claire wedi gweithio’n helaeth ledled Powys a Cheredigion ac yn fwy diweddar ar gyfer Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Sir Gwynedd. Mae’n byw yng Nghanolbarth Cymru ac yn teithio ar gyfer y busnes ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig. Yn Aelod Llawn ac yn Gyfarwyddwr y Sefydliad Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Rheoli Mynediad, mae gan Claire dystysgrif gyfredol o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus. Yn ei hamser sbâr mae’n hoffi cerdded mynyddoedd, rhedeg llwybrau a thynnu lluniau.

Claire Goodman

Gwasanaethau ar gyfer Awdurdodau Lleol a’r Llywodraeth

HAWLIAU TRAMWY CYHOEDDUS / TIR COMIN / LLEINIAU PENTREFI / MYNEDIAD I GEFN GWLAD

Mae Birchill Access Consultancy yn canolbwyntio ar waith achos Hawliau Tramwy Cyhoeddus, Tir Comin a Lleiniau Pentrefi yn ogystal â gwaith ymgynghori arall sy’n ymwneud â Rheoli Tir.

Cysylltu


CADW MEWN CYSYLLTIAD